lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
Newyddion a Digwyddiadau
Gogledd Cymru
Mae rhyw ddigwyddiad neu'i gilydd ar waith drwy'r amser yng Ngogledd Cymru, gyda gweithgaredd i fodloni pob un ohonom - yn cynnwys y rheiny ohonom sy'n mwynhau danteithion. Gallwch flasu bwyd cyn ei brynu yng Ngwledd Conwy, gweithgaredd coginio mwyaf Gogledd Cymru. A pham nad ewch chi ati i lyncu wystrysen neu ddwy yng Ngwyl Wystrys Môn? Neu fwynhau cwrw neu ddau yng Ngwyl Gwrw Môn?
Ydych chi'n ysu am ychydig o ddiwylliant? Ymunwch ag artistiaid o fwy na 50 o wledydd a chanwch nerth eich pen yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Gwyliwch Bryn Terfel, a sêr fel Shirley Bassey a Jools Holland, yn perfformio i dyrfa o filoedd yng Ngwyl y Faenol. Neu mwynhewch gerddoriaeth ar raddfa lai yng Ngwyl Jazz Abersoch.
Ydych chi'n dyheu am fynd ar y dwr? Gall y morwyr yn eich plith fwynhau Gwyl Afon Conwy, sy'n wyl wyth diwrnod unigryw o hwylio, yn ei 17eg flwyddyn erbyn hyn. Gall syrffwyr fwynhau chwaraeon dwr eithafol a cherddoriaeth fyw yn Wakestock. Ac mae popeth yn yr awyr yng Ngwyl Balwns Awyr Poeth Llangollen. Fyddai'n well gennych chi rywbeth ychydig yn nes at y tir? Cadwch eich traed yn sownd ar y ddaear a mwynhewch un o'r 21 o deithiau cerdded yng Ngwyl Gerdded Prestatyn. Ydych chi'n hoffi gwneud pethau yn y ffordd draddodiadol? Gallwch ddathlu fel rhywun o Oes Fictoria yng Ngwyl Fictoraidd Llandudno, neu ewch i siopa fel canoloeswr - mae Ffair Fêl Conwy wedi bod yn rhedeg am fwy na 700 o flynyddoedd. Dyna fôr o fêl!
Beth bynnag yr ydych yn ei fwynhau, cewch rywbeth at eich dant ar ein rhestr o ddigwyddiadau mawr. Does dim modd diflasu ar ymweliad â Gogledd Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddigwyddiadau yng Ngogledd Cymru, edrychwch ar www.eventsnorthwales.co.uk.
Caer
Heb os nag onibai, rydych wedi cyrraedd y lle cywir ar gyfer clywed am arddangosiadau, sioeau, gwyliau ac adloniant cyffredinol yng Nghaer. Am mai ni yw'r bwrdd croeso swyddogol, gallwn warantu y bydd yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael yma i chi.
Mae croeso i chi chwilota drwy ddefnyddio'r ddolen isod er mwyn gweld yr hyn sy'n digwydd a'r pethau fydd yn eich difyrru! I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau yng Nghaer, edrychwch ar http://www.visitchester.com/site/whats-on.
I gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau, cliciwch ar y dolenni nesaf os gwelwch yn dda:










