lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
Cystadleuaeth rholio caws yng Nghaer. Waliau castell rhesog yng Nghaernarfon. Ffair fêl 700 mlwydd oed yng Nghonwy.
Lle'r oedd ffin Lloegr ers talwm yn Ninbych.
Y dafarn lle arhosodd Oliver Cromwell ym Miwmares.
Mae bywyd yn brysur yn ein Trefi Caerog.
Does dim brisblocs yma. Cafodd y muriau Cymreig yma eu hadeiladu yn y 13eg ganrif gan Edward 1. Ac roedd gan Gaer furiau o'i hamgylch pan oedd y Rhufeiniaid yno. Mae'r hen furiau yma'n fawr. Ac yn dal yn gryf hyd heddiw. Eu pwrpas oedd cadw'r gelyn allan, ond heddiw mae ein mynediad i'r trefi ychydig yn haws. Ac mae'r waliau'n ffordd dda o weithio allan lle'r ydych. Os byddwch angen ychydig o help i gofio lle mae eich hoff far, caffi neu siop ddillad.
Efallau mai'r waliau sy'n gwneud y trefi yma'n arbennig. Ychydig yn wahanol. Dyna'n barn ni.










