lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
Grwpiau ac Ysgolion
Dydy trefnu ymweliad grwp ddim yn beth hawdd. Rhaid cynllunio, bwcio a threfnu. Ond peidiwch â phoeni, rydyn ni wedi meddwl am bob peth. Mae pob un o'r pum tref gaerog yn croesawu grwpiau ac ysgolion, a dim ots pa weithgaredd sydd at eich dant - taith Rufeinig o amgylch Caer neu ddiwrnod o ganfod hanes canoloesol yng Ngogledd Cymru, gallwn eich pwyntio yn y cyfeiriad cywir fel eich bod yn mwynhau eich ymweliad i'r eithaf.
Caer
Yn ôl Conffederasiwn Cludiant Teithwyr y DU, mae Gogledd Orllewin Lloegr yn cynnwys mwy o gyrchnodau hawdd eu cyrraedd ar fws nag unrhyw ranbarth arall o Loegr. A gyda chymaint o fannau i fynd iddynt, pethau i'w gweld a theithiau gyda thywysydd i'w cymryd (yn cynnwys taith o 'Gaer Dewa' yng nghwmni milwr Rhufeinig yn ei wisg frwydro gyfan) dydy taith grwp i Gaer erioed wedi bod yn fwy cyffrous. Cysylltwch â Chanolfan Groeso Caer i gael rhagor o fanylion neu bwciwch eich taith grwp. Cyfeiriad canolfan groeso Caer yw Chester TIC, Town Hall, Northgate Street, Chester, Ffôn: +(44) 01244 402111, edrychwch ar www.chester.gov.uk neu edrychwch ar yr adran Chester for Groups ar www.visitchester.com.
Cymru
www.groupsnorthwales.co.uk yw'r lle hanfodol i drefnwyr teithiau grwp. Mae'n cynnig gwybodaeth am drefnu teithiau dydd, teithiau gweld safleoedd, bwcio llety sy'n cymryd grwpiau, yn ogystal â threfnu pecynnau gyda thema a gwyliau o ddiddordeb arbennig.
Mae mynediad i bob un o'r 127 o safleoedd Cadw drwy Gymru'n rhad ac am ddim i grwpiau addysg sydd wedi'u bwcio o flaen llaw, ac mae hyn yn cynnwys ein cestyll a'n trefi caerog. Ar wefan Cadw gallwch ganfod yr holl wybodaeth y byddwch ei hangen i gynllunio eich ymweliad addysgol - pethau fel dewis lle i ymweld a syniadau ar gyfer gweithgareddau i'w gwneud pan gyrhaeddwch. Gallwn drefnu ymweliad cynllunio â'r safle Cadw a ddewiswch (sydd hefyd yn rhad ac am ddim), a gallwch lawrlwytho nodiadau athrawon, darluniau adluniad, ffotograffau, cwisiau, nodiadau dosbarth, gwybodaeth am ddiogelwch a bwcio. Edrychwch yn yr adran Dysgu a Chanfod ar wefan Cadw os gwelwch yn dda - www.cadw.wales.gov.uk.
Cadwch eich llygaid yn agored...
Cyn hir bydd Cadw'n cynnal cynllun peilot 'Teithwyr mewn Amser' yng Nghastell Conwy i grwpiau ysgol - taith olrhain hanes gyffrous gyda chliwiau wedi'u cuddio drwy'r castell i gyd, gêm 'dwi'n gweld efo'm llygad bach i' ac adolygiad wedyn.










