lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
Cyrraedd y Trefi Caerog
Rydym wedi bod yn croesawu teithwyr yma am 2,000 o flynyddoedd, felly mae'n hawdd iawn cyrraedd ein trefi caerog ...
Ar awyren
Dyma ein meysydd awyr rhyngwladol agosaf:
Maes Awyr Ynys Môn
Ffôn: 08702 330330
www.angleseyairport.com
John Lennon Lerpwl
Ffôn: 08707 508484
www.liverpooljohnlennonairport.com
Rhyngwladol Manceinion
Ffôn: 0161 489 3000
www.manairport.co.uk
Ar fws/goets
- Mae gwasanaethau bws y National Express ar gael o'r ddau faes awyr i Gaernarfon, Caer a Chonwy.
- Bangor yw'r stop agosaf ar gyfer Biwmares. Mae gwasanaethau bws lleol rhwng Bangor a Biwmares.
- Y Rhyl yw'r stop agosaf ar gyfer Dinbych. Mae gwasanaethau bws lleol rhwng y Rhyl a Dinbych.
National Express
Ffôn: 08705 80 80 80
www.gobycoach.com
Mae gwybodaeth am y gwasanaethau bws lleol drwy Brydain gyfan ar gael o'r cysylltiadau yma:
www.traveline.org.uk
Ffôn: 0870 608 2 608
Biwmares: www.islandofchoice.com
Ffôn: 01248 713177
Caernarfon: www.gwynedd.gov.uk
Ffôn: 01286 679535
Caer: www.cheshire.gov.uk
Ffôn: 01244 602666
Conwy: www.traveline.org.uk
Ffôn: 01492 575412
Dinbych: www.denbighshire.gov.uk
Ffôn: 01824 706968
Mae Tocyn Hyblyg Rhyddid Cymru'n rhoi'r rhyddid i chi fwynhau mynediad agored i bob gwasanaeth bws bron iawn a phob gwasanaeth prif reilffyrdd trên, yn ogystal â mynediad gyda disgownt i lawer o atyniadau mwyaf Cymru.
Ffôn: 0870 9000 777
www.walesflexipass.com
Mae Red Rover yn gerdyn teithio gyda disgownt ar fws sy'n rhoi'r hawl i chi deithio drwy'r dydd ar wasanaethau bws sydd ar amserlenni Gwynedd, Conwy (ar wasanaethau sy'n cychwyn ac yn gorffen yng Ngwynedd) ac Ynys Môn.
Mae Sherpa Eryri'n teithio i mewn ac o amgylch rhan fwyaf prysur y Parc Cenedlaethol.
www.gwynedd.gov.uk
Ffôn: 01286 679535
Mae Busybus yn cynnig teithiau bythgofiadwy drwy Sir Gaer a Gogledd Cymru i grwpiau ac unigolion. Cliciwch ar www.busybus.co.uk neu ffoniwch (0)8708 741800.
Ar drên
Mae gwasanaethau rheilffordd rhwng Maes Awyr Manceinion a Chaer drwy Crewe. Gallwch deithio ar drên o Lerpwl i Gaer. (Mae bws yn cysylltu'r maes awyr a chanol. dinas Lerpwl).
Mae gwasanaethau trên o Gaer i Gonwy ac ar draws Ynys Môn i Gaergybi yn gollwng teithwyr yng ngorsaf Bangor i ddefnyddio gwasnaethau bws lleol i Gaernarfon, yng ngorsaf y Rhyl i ddefnyddio gwasanaethau bws lleol i Ddinbych, ac yng ngorsaf Llanfair PG ar gyfer gwasnaethau bws lleol i Fiwmares.
Merseyrail (Lerpwl-Caer)
Ffôn: 0151 702 2071
www.merseyrail.org
Ymholiadau Rheilffordd Cenedlaethol
Ffôn: 08457 484950
www.nationalrail.co.uk
www.thetrainline.com
Mae Tocyn Hyblyg Rhyddid Cymru'n rhoi'r rhyddid i chi fwynhau mynediad agored i bob gwasanaeth bws bron iawn a phob gwasanaeth prif reilffyrdd trên, yn ogystal â mynediad gyda disgownt i lawer o atyniadau mwyaf Cymru.
Ffôn: 0870 9000 777
www.walesflexipass.com
Teithiau Prydferth:
Bydd Rheilffordd Dyffryn Conwy'n eich cymryd o Landudno i galon Parc Cenedlaethol Eryri, i Orllewin Cymru a thu hwnt.
www.conwyvalleyrailway.co.uk
Y Cambrian Coaster ar hyd Bae Ceredigion i'r Bermo, Harlech a Phwllheli yw un o'r teithiau trên harddaf ym Mhrydain.
www.the trainline.com
Ffôn: 08457 484950
Mewn car
Mae'r ardal yma wedi'i gysylltu at y rhwydwaith priffyrdd cenedlaethol gyda'r M56 i'r dwyrain o Gaer, sy'n cysylltu â'r M53 a ffordd gyflym yr A55 sy'n arwain i Ddinbych ar hyd yr A525, Conwy a Biwmares ar hyd yr A545 a Chaernarfon ar hyd yr A487.
Ffyrdd gyda golygfeydd hardd: mae'r A5 yn pasio drwy Ddyffryn Llangollen a Pharc Cenedlaethol Eryri, mae'r A470 o Gonwy sy'n teithio ar hyd Dyffryn Conwy yn ffordd, sydd wedi'i hargymell am ei harddwch, i Fetws y Coed gyda'i Raeadr Ewynnol brydferth.
www.theaa.com
www.rac.co.uk
Ar feic
Mae rhai llwybrau seiclo ysblennydd reit ar draws yr ardal.
Mae gan y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol lwyth o wybodaeth:
Ffôn: 0845 113 0065
www.nationalcyclenetwork.org.uk
Ar gwch
Mae Stena Line ac Irish Ferries yn cynnig gwasanaethau cyflym ac aml o Gaergybi (Ynys Môn) i Iwerddon (porthladdoedd Dulyn a Dun Laoghaire).
Irish Ferries:
Ffôn: 08705 171717
www.irishferries.com
Stena Line:
Ffôn: 08705 707070
www.stenaline.com
Pellteroedd
| Y pellter mewn milltiroedd (km) | Biwmares | Caernarfon | Caer | Conwy | Dinbych |
|---|---|---|---|---|---|
| Beamaris | 12 (19) | 69 (111) | 22 (36) | 46 (74) | |
| Caernarfon | 12 (19) | 69 (111) | 23 (37) | 47 (76) | |
| Caer | 69 (111) | 69 (111) | 47 (76) | 30 (49) | |
| Conwy | 22 (36) | 23 (37) | 47 (76) | 24 (39) | |
| Dinbych | 46 (74) | 47 (76) | 30 (49) | 24 (39) |










