lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
CADW
Byddwch yn un mewn miliwn
Cadw yw'r enw ar wasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru. A'r bobl neis yn Cadw sy'n edrych ar ôl ein hen bethau, fel muriau trefi a chestyll Cymreig canoloesol Edward I yr ydych wedi darllen amdanynt ar y wefan yma.
Yr enw Cymraeg 'Cadw' sydd yma wrth gwrs. Sy'n ddigon addas i fod yn onest, am mai dyna'n union a wnânt. Mae gwarchodwyr Cadw, seiri meini medrus a chrefftwyr eraill o Gadwraeth Cymru'n cadw ein safleoedd treftadaeth a'n heiddo hanesyddol pwysig mewn trefn ragorol. I wneud yn siwr eu bod yn para am flynyddoedd a blynyddoedd i ddod. Fel bod ein plant, a'u plant hwy'n gallu ymweld â nhw a'u mwynhau nhw gymaint ag y gwnawn ni.
Ond maen nhw'n gwneud llawer mwy na dim ond edrych ar ôl ein cestyll a'n trefi caerog. Maen nhw hefyd yn gofalu am safleoedd, cofebau ac adeiladau hanesyddol eraill. Sy'n golygu bod mannau fel Plas Mawr yng Nghonwy'n gallu parhau i ddangos eu gwaith plastr mewnol. Mae'r nenfydau wedi'u peintio yng Nghapel Gwydir Uchaf yn aros yn hardd. Mae Meini Hirion Penrhos Feilw Ynys Môn sy'n 10 troedfedd o uchder yn aros ar eu traed. Ac mae'r safleoedd hynafol eraill, fel Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu, yn aros yn agored i ymwelwyr. Yn wir, mae Cadw'n croesawu mwy na miliwn o ymwelwyr i'w safleoedd bob blwyddyn. A gallwch chi fod yn un ohonynt. Cewch wybod mwy am safleoedd Cadw ar www.cadw.wales.gov.uk.










