lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
Ein Trefi Caerog
Dinbych
Dinbych, sy'n golygu 'caer fechan', yw un o'r trefi caerog mwyaf a chryfaf yng Nghymru gyfan. Llwyddodd i oroesi gwrthryfel Owain Glyndwr Tywysog Cymru yn 1400. Peth mawr i le gydag enw bach. Roedd y porthdy ei hun yn un o'r strwythurau amddiffyn cadarnaf yn ei gyfnod. Yn wir, roedd y gaer mor gadarn fel bod byddin Cromwell wrthi am bedwar mis yn ceisio torri trwyddi.
Dim trafferth o'r fath heddiw, diolch byth. Yr unig broblem y gallech ei chael yw penderfynu a ddylech gerdded llwybr Clawdd Offa, neu fynd i fwynhau rafftio dwr gwyn ar yr afon Dyfrdwy yn Llangollen. Peidiwch â phoeni. Does dim o'i le gydag eistedd a mwynhau'r olygfa tra byddwch yn ceisio penderfynu.
Ac os ydych eisiau golygfa, rydych yn y lle cywir. Mae Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol swyddogol. Mwy nag 20 milltir o fryniau creigiog, dyffrynnoedd gwyrdd, gweunydd grugog a choetir. Dyma'r Mecca i feicwyr mynydd. Sy'n hoffi profi eu sgiliau traws gwlad ar 7.5 milltir Dolen Coed Moel Famau. Llwybr hawdd medden nhw. Neu'r 'Loop de Loop'. Mae hwn dros 33 milltir o hyd ac yn cymryd 6 awr. Un anodd.
Does dim angen profiad o draws gwlad arnoch ar gyfer y pleser arall sydd gan Ddinbych i'w gynnig. Siopa. Roedd hon yn dref farchnad pan gyrhaeddodd Edward I. Mae marchnad yma o hyd ar Sgwâr y Goron bob dydd Mercher. A Marchnad y Bobl bob mis. Lle gallwch brynu rhywbeth blasus. Mae'r bwyd gorau'n lleol felly mae'n fwy ffres A does dim rhaid iddo deithio ymhell, felly mae'n well i'r amgylchedd. Os bydd angen esgus arnoch i wario'ch pres.
Gweld map mwy
Mae gennym esgusion eraill hefyd. Un ohonynt yw'r neuadd fwyd yn Sioe Dinbych a Fflint ym mis Awst. Tra byddwch yno cewch weld da byw sydd wedi ennill gwobrau, cewch ddysgu sut i drin reiffl awyr, a gwylio ymryson go iawn rhwng y Knights of the Damned. Dim ond yn Ninbych.
Os hoffech ddysgu ffaith neu ddwy, ewch i'r Llyfrgell. Adeiladwyd hon yn 1572. Cafodd ei hatgyweirio yn 1780. Heddiw mae'n cynnwys amgueddfa am hanes Dinbych. Yn ogystal â'r allweddi i Waliau'r Dref. Y gallwch eu benthyg. Er mwyn i chi allu archwilio Twr yr Iarlles. A Thwr y Goblin. Mae ganddynt lyfr neu ddau yno hefyd. Nid hwn yw unig gysylltiad llenyddol Dinbych. Ganed y nofelydd a'r bardd Rhoda Broughton yma yn 1840. Roedd ei gwaith yn cynnwys 25 o nofelau. Cafodd Mr Stanley, hwnnw sy'n enwog am ddweud y geiriau "Dr Livingstone, I presume" ei eni yma hefyd. A gallwch ymweld â gweddillion yr unig eglwys newydd fawr a adeiladwyd yn ystod teyrnasiad Elizabeth I. Cafod hon ei hadeiladu gan Robert Dudley, Iarll Caerlyr, ffefryn Elizabeth, ac efallai ei chariad hefyd.
Y tu allan i'r dref mae ein ffefrynnau ni'n cynnwys chwech o 'Saith Rhyfeddod Cymru'. Pistyll Rhaeadr, gerllaw pentref Llanrhaeadr, y rhaeadr uchaf yng Nghymru yw un. Un arall yw Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon, sef 'Lourdes Cymru'. Lle i bererinion ers y 7fed ganrif. A gall y rheiny ohonoch sy'n chwarae golff wneud pererindod i fwy nag ugain o gyrsiau 9 ac 18 twll ar ffindir Cymru. Cafodd y cwrs pencampwriaeth 72 par ym Mharc Llaneurgain ei lunio gan y cyn seren Cwpan Ryder John Jacobs. Mae'n gorwedd mewn 247 erw o goetir aeddfed.
Neu treuliwch brynhawn yn pysgota yn Afon Dyfrdwy sy'n llawn o frithyll ac yn llifo'n gyflym. Gallwch weld yr olygfa orau ohoni o Draphont Ddwr Froncysyllte, ar uchder brawychus o 126 troedfedd. Hefyd mae Cadeirlan hynafol Llanelwy sy'n dyddio'n ôl i 560 AD. Dyma'r gadeirlan hynafol leiaf ym Mhrydain ac ynddi mae'r cyfieithiad Cymraeg cyntaf o'r Beibl gan William Morgan. Neu mae castell arall Edward I gerllaw yn Rhuddlan.
A beth am sefydliad nodedig yr Wyddgrug, Theatr Clwyd Cymru ? Mae'n dangos oddeutu 900 o berfformiadau cyhoeddus bob blwyddyn. Mewn pump o wahanol leoliadau yn cynnwys Theatr Anthony Hopkins a Theatr Emlyn Williams. Sinema, bwyty a thair oriel gelf. Mae'n lle gwerth chweil.
- Bwciwch eich gwyliau yn Ninbych

