lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
Ein Trefi Caerog
Conwy
Gadewch i ni siarad am Gonwy. Mae'r dref ganoloesol enwog yma'n orlawn o hanes ac mae'n hawdd mynd oddi yno i'r mynyddoedd ac at y môr. Ond does dim amgueddfeydd llychlyd yma. Yng Nghastell Conwy gallwch gyffwrdd y waliau, dringo'r tyrrau ac edrych allan i'r môr. Ers talwm, fel castell o'r hen chwedlau, roedd wedi'i beintio'n wyn ac, ar ei dyrrau roedd toeau conigol.
Y dyddiau yma, mae'n lle gwych i'r Blodeuwedd a'r Lleu Llaw Gyffes yn ein plith adael i'w dychymyg redeg yn wyllt. A gyda dewis Conwy o fannau gwych i fwyta ac yfed, gallwn oll fwynhau diwrnod i'r brenin. Mae dau o gogyddion Gwesty'r Castell ar Dim Coginio Cymru a wnaeth yn dda iawn yng Nghwpan Goginio'r Byd. Mae ganddynt hefyd wely pedwar postyn o'r 16eg ganrif yn Ystafell Wynn. Sy'n gwneud y lle'n berffaith ar gyfer aros dros nos.
A byddem yn disgrifio ein lleoliad yn berffaith hefyd. Ar lannau aber yr afon Conwy. Felly, yn naturiol, mae pob mathau o chwaraeon dwr ar gael yma. Mae digon o le ar y darn hwn o'r foryd i angori mwy na 1000 o gychod.
Ac ym mis Awst mae wythnos lawn o ddathlu yn arbennig ar gyfer hwylio a ffyrdd eraill o gael trochiad go iawn. Ei enw yw Gwyl yr Afon Conwy. Ar draws yr Afon, yn Sba Cei Deganwy, gallwch gael tyliniad Hamam am 60 munud sy'n gorffen gyda throchiad da o ddwr poeth ac oer. Dathlu dwr go iawn.
Yn ôl ar dir sych, ewch i strydoedd cobls Conwy i ganfod mwy na 700 mlynedd o hanes. Cafodd William Wordsworth ei ysbrydoli i ysgrifennu cerddi yma. Ac mae'n debyg mai'r plas o Oes Elizabeth, Plas Mawr, yw'r ty o'i fath sydd wedi'i gadw orau ym Mhrydain. Gallwch weld mwy na 600 mlynedd o hanes yn dod yn fyw yn Nhy Aberconwy. Yn ôl pob sôn, dyma'r ty tref hynaf yng Nghymru.
Gweld map mwy
Cerddwch y strydoedd cobls hynafol. Maen nhw'n cynnal gweithgareddau rheolaidd fel Gwledd Conwy ym mis Hydref, gwyl fwyd am ddau ddiwrnod. Neu rhowch ymarfer iawn i'ch coesau drwy gerdded tri chwarter milltir ar hyd fur y dref. Yna mae pont grog Telford, 1862, yn uno â'r castell fel petai'n bont godi arno. Ac os byddwch yn teimlo fel croesi drosti, mae gennym fwy na digon o bethau i'w gweld a'u gwneud y tu allan i'r waliau hefyd.
Yng Ngwarchodfa Natur RSPB Morfa Conwy maen nhw wedi cofnodi mwy na 200 o wahanol fathau o adar. Ac mae miloedd o wahanol fathau o blanhigion yn y casgliadau yng Ngardd Bodnant, yn cynnwys Bwa Banadl sy'n mesur 55 metr. Mae pentref bychan Rowen yn hynod o brydferth. Mae ar droed mynyddoedd Tal-y-fan. Felly mae digonedd o lwybrau cerdded. Maen rhyfedd fel y mae'r rhai gorau'n dod i ben yn nhafarn y Ty Gwyn. Dydy hon ddim yn bell o'n tafarn enwog arall, Tafarn y Groes, ty trwyddedig cyntaf Cymru, lle maen nhw wedi bod yn arllwys peintiau ers 1573. Mae ganddo hefyd rai o'r golygfeydd gorau. Ond dydy hynny ddim yn beth newydd.
Yn wir, mae pobman yr ewch chi iddo bron yn Nyffryn Conwy ynghanol darn prydferth o gefn gwlad. Mae Betws y Coed yn Eryri wedi'i lyncu gan Barc Fforest Gwydir a gallwch gerdded oddi yno i'r mynyddoedd. Gallai hyn esbonio pam mai dyma brifddinas siopa Cymru ar gyfer offer awyr agored.
Cymerwch yr A5 i Gapel Curig. Mae gerllaw troedfryniau gwyllt Moel Siabod, y Glyderau a'r Carneddau. Felly mae Eryri ar eich stepen ddrws go iawn. Gerllaw hefyd mae Canolfan Fynydd Genedlaethol Plas y Brenin, lle maen nhw'n cynnig gwersi awyr agored rhagorol. Defnyddiol iawn os nad ydych wedi mentro i gefn gwlad ers i chi fynd gyda'r Girl Guides.
- Bwciwch eich gwyliau yng Nghonwy

