lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
Ein Trefi Caerog
Caer
Ers talwm, roedd pob hawl i Sais saethu Cymro yng Nghaer gyda bwa a saeth - os byddai'n aros yno'n hwyrach na 9pm, hynny yw. Heddiw, yr unig berygl yw'r cerdyn credyd. Ac mae siopa yng Nghaer yn wahanol i unrhyw brofiad arall. Oherwydd pan fyddwch yn meddwl eich bod wedi gweld popeth, mae rhes arall o adeiladau pren du a gwyn o'r 13eg ganrif sy'n eich denu i wario mwy. Yn union fel Hen Loegr. Ond gyda Jaeger, Jo Malone a Karen Millen.
O'i gymharu â dinasoedd eraill, mae Caer yn weddol fach. Ond dydy hynny ddim yn beth drwg. Mae'n golygu eich bod yn gallu cerdded o un pen i'r llall. Ac rydych yn agos i'r mannau gorau bob amser. Ond unwaith y byddwch wedi gweld Castell Caer (cartref Hugh 'y Blaidd', nai tramgwyddus Gwilym Goncwerwr), Ty Rhagluniaeth Duw o'r 17eg ganrif (yr unig dy yng Nghaer i osgoi'r pla), ac wedi ymweld ag Amffitheatr Rhufeinig fwyaf Prydain, gyda lle i oddeutu 7,000 o bobl, byddwch yn barod i eistedd mewn adeilad arall yng Nghaer sydd wedi'i ddylanwadu gan y Rhufeiniaid. Ei enw yw Piccolino. Mae'n far a bwyty. Gyda lle i tua 120.
Maen nhw wedi bod yn rasio yn y Roodee am fwy na 450 o flynyddoedd ac mae tymor gorlawn o'u blaenau. Felly, agorwch y bocs hetiau ac ewch i fwynhau Diwrnod y Merched. Mae gweithgareddau eraill yno hefyd. Mwy o wyliau nag y gallwch chwifio baneri atynt. Yng Ngwyl Bwyd a Diod y Pasg gallwch weld gwaith pobl fel James Martin, Lesley Waters a Simon Rimmer. Mae'n cychwyn gyda chystadleuaeth rholio caws.
Gwrandewch ar lond haf o gerddoriaeth yng Ngwyl Gaer. Ac mae mis Mehefin yn amser perffaith i wisgo eich menig garddio neu godi eich brwsh paent a mynd i'r Sioe Gartref a Gardd. Ym mis Gorffennaf, bydd 30 o dimau ar gychod cartref yn padlo ar hyd y cwrs 400 metr yn Ras Rafftiau Gwyl yr Afon. Neu codwch i'r awyr yn yr Wyl Farcud ym mis Medi. Gyda'i acrobateg cydamseredig a'i sbrintio uchel, mae'n ddathliad o bopeth sy'n ymwneud â barcudiaid.
Gweld map mwy
Mae pethau eraill sydd werth eu dathlu y tu allan i'r ddinas hefyd. Yn Fferm Gorstage Green ger Northwich gallwch roi cynnig ar ffermio llaeth. Gallwch ddysgu sut i drin y fuches bedigri o 90 o wartheg llaeth. Ac mae mwy na 7,000 o anifeiliaid yn Sw Gaer. Mae'r anifeiliaid diweddaraf yn cynnwys eliffantod bach. Enillodd y Sw y wobr am Atyniad Mawr y Flwyddyn yn 2006 yng Ngwobrwyon Sir Gaer a VisitChester. A Tatton Park, yr ystâd Georgaidd fwyaf cyflawn ym Mhrydain. Wedi'i osod mewn mwy na 1,000 erw o barcdir. Gyda gerddi sydd wedi ennill gwobrau. Mae'n cynnal sioe Flodau'r Gymdeithas Arddwriaeth Frenhinol ym mis Gorffennaf.
Mae'r gerddi yn Neuadd Arley wedi ennill gwobrau hefyd. Cawsent eu pleidleisio ymysg y deg gorau ym Mhrydain. Cafodd y ty ei enwi'n 'Atyniad Bychan y Flwyddyn' yng Ngwobrau Twristiaeth y Gogledd Orllewin yn 2006. Neu gallech weld Telesgop Radio byd-enwog Lovell, prif atyniad Arsyllfa Jodrell Bank. Mae wedi bod yn dawel archwilio dyfnder y gofod ers 1957. Mae'n dal i fod yn un o delesgopau radio mwyaf a mwyaf pwerus y byd heddiw.
Neu beth am fenthyg cwch camlas ac archwilio ein camlesi'n hamddenol? Gyda mwy na 200 milltir o ddyfrffyrdd, mae gan Sir Gaer fwy o filltiroedd o gamlesi nag unrhyw sir arall yn Lloegr. Symudwch yn dawel i Northwich i weld Lifft Cychod Anderton o 1875. Dyma oedd y cyntaf yn y byd. Mae pobl yn ei alw'n 'Gadeirlan y Camlesi'.
- Bwciwch eich gwyliau yng Nghaer

