lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
Ein Trefi Caerog
Caernarfon
Gadewch i ni siarad am gestyll. Mae'r un yng Nghaernarfon ychydig yn wahanol i gestyll eraill Edward I. Yn union fel unrhyw gaer ganoloesol arall sydd werth ei halen mae ganddi dyllau llofruddio, porthcwlisiau a ffos. Ond mae gan hon fandiau o garreg tywod a charreg galch a thyrrau siâp polygon hefyd. Awgrym o arddull Caer Cystennin y cyfnod hwnnw. Dyna Edward, y croesgadwr brwdfrydig wrthi eto.
Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 1283. A ganed Tywysog Saesneg cyntaf Cymru yma yn 1284. Mae'n sefyll ar y fan lle mae'r Afon Seiont yn cwrdd â'r Afon Menai. Roedd 'peintiwr goleuni' rhamantus Lloegr, Joseph Mallord William Turner (JMW i'w ffrindiau) mor hoff o'r castell nes yr aeth ati i'w beintio yn 1798. Ac eto yn 1800. Ac eto yn 1832.
Gallwch gerdded o amgylch y castell i ddod o hyd i amgueddfa gatrodol Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru. Yn 2001, ffilmiwyd symudiadau dawns ar gyfer ffilm Bollywood 'Kasam Se' y tu mewn i furiau'r castell. Ia, go iawn, ffilm Bollywood. A'r tu allan i waliau'r castell, edrychwch am yr hen dwnnel rheilffordd. Dyma lle bu'r BBC yn ffilmio rhaglen arbennig y Nadolig o 'Casualty' a 'Holby City' yn 2005.
Beth am fynd ar Reilffordd Eryri. Y trên stêm 2' o led mwyaf pwerus yn y byd. Neu gallwch gerdded o gwmpas yn eich amser eich hun i ganfod lle bach gyda chymeriad enfawr. A mwy o siaradwyr Cymraeg nag yn unrhyw le arall yng Nghymru.
Gweld map mwy
Ar ôl teithio o amgylch y dref, gorymdeithiwch eich llengoedd i Gaer Rufeinig Segontium. Mae'n dyddio'n ôl i 77 AD ac mae'n un o safleoedd Rhufeinig mwyaf poblogaidd Prydain. Ar un amser roedd yn dal catrawd o 1,000 o filwyr ategol. Felly mae'n fawr. Yn ddigon mawr i ddisgyn Castell Caernarfon i mewn iddo, fel mae'n digwydd.
Mae'r theatr yn Galeri yn ddigon mawr i tua 400 o bobl. Dyma lle gallwch weld gweithiau gwych mewn ffilm a chelf. Cafodd ei agor yn 2005 gan atyniad mawr arall Caernarfon, Bryn Terfel. Yn canu cerddoriaeth gan Mozart, Wagner, Puccini a Verdi, mae ef wedi ymddangos ym mhrif dai opera'r byd. Ond mae yr un mor hapus yn perfformio gartref. Mae ei Wyl y Faenol yn ei 8fed blwyddyn erbyn hyn. Lle mae pobl fel y Fonesig Shirley Bassey, Jools Holland a Westlife yn chwarae i dyrfa o filoedd yn ehangder yr awyr agored.
Mae gennym ddigonedd o ffyrdd eraill o fwynhau ein hawyr agored eang. Mae Eryri'n berffaith ar gyfer beicio mynydd. Wedi i chi ddringo Cefn y Ddraig a dod yn feistr ar y Bwystfil byddwch yn barod i wynebu Pwll Fictoraidd Seiont Manor. Lle perffaith i fwynhau'r dwr. A gallwch fwynhau'r dwr hefyd yn y Rhaeadr Ewynnol. Yr amser gorau i weld y rhaeadr yma, sydd ar Afon Llugwy, yw ar ôl cawod drom o law.
Neu gallwch fynd i'n mynyddoedd enwog. Yr Wyddfa yw'r uchaf yng Nghymru a Lloegr. Gallwch ei ddringo ar droed. Neu gymryd y trên. Mae Rheilffordd yr Ucheldir wedi teithio i fyny'r mynydd am fwy na 100 mlynedd. Neu gallwch fynd i weld Mynydd Trydan. Yn ddwfn o fewn yr Elidir, mae ceudwll mwyaf Ewrop sydd wedi'i wneud gan ddyn, yn cynnwys rhai o hydro-generaduron mwyaf pwerus y byd.
Mae mwy i'w weld uwch lefel y tir hefyd. Mae Pen Llyn newydd ddathlu ei 50fed pen-blwydd fel Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Dyma lle maen nhw'n cynnal Wakestock. Mae hon yn wyl gerdd a bordiau ôl llong (wakeboards), gyda chystadleuaeth amatur a phroffesiynol wedi'i dilyn gan gerddoriaeth fyw hyd yr oriau mân. Mae'n digwydd gerllaw'r traethau sydd wedi ennill gwobrau yn Abersoch.
Mae glannau môr eraill Llyn sydd wedi ennill gwobrau yn cynnwys traeth y gallwch yrru arno - Traeth y Greigddu. A thraeth mawr tywodlyd yn Ninas Dinlle, gerllaw Maes Awyr Caernarfon, lle gallwch neidio ar awyren a gweld ochr hollol wahanol i Gaernarfon.
- Bwciwch eich gwyliau yng Nghaernarfon

