lleoliad ein trefi caerog
welcome / croeso to our walled towns
Ein Trefi Caerog
Biwmares
Mae Biwmares yn dref ganoloesol ar arfordir deheuol Ynys Môn (dyma'r ynys fawr yng ngogledd Cymru). Mae ei henw'n dod o'r iaith Ffrangeg Normanaidd 'beau marais', sy'n golygu 'cors brydferth'. Mae gan y dref olygfeydd dros Eryri, yr Afon Menai ac arfordir tir mawr Cymru. Maen nhw'n dweud bod gwirionedd mewn enw.
Mae gan gastell canoloesol Edward I ffos a phont godi. Tyllau sbio higolau llofruddio. Castell go iawn os bu un erioed. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 1295. Aeth yn ei flaen am oddeutu 35 o flynyddoedd. A chafodd o byth ei orffen. Ond, dydy hynny ddim yn bwysig. Oherwydd mae'r bobl hynny sy'n deall eu pethau'n meddwl mai dyma un o'r esiamplau gorau o'i fath yn y byd. Yn dechnegol berffaith, medden nhw. Ond mae gan y dref yma fwy i'w gynnig na'r castell.
Carchar Biwmares. Nid i'r gwangalon. Ty Fictoraidd i droseddwyr gyda'r unig olwyn droedlath ym Mhrydain sy'n dal i weithio. Ar ôl i chi deithio'r celloedd cosbi a sefyll yn y doc yn y Cwrt Jacobeaidd gyferbyn, efallai y bydd angen diod gadarn arnoch. Yn ffodus, yn Ye Olde Bull’s Head Inn maen nhw'n gwybod un neu ddau o bethau am groesawu cwsmeriaid. Roedd Dr Samuel Johnson a Charles Dickens yn meddwl hynny hefyd.
Felly, mewn chwinciad llygad byddwch yn barod i wynebu beth bynnag sydd gan Biwmares i'w daflu atoch. Dogn da o therapi gwario arian. Tafarndai hynafol, caffis modern. Bythynnod glan môr o bob lliw a llun. Pier Fictoraidd. 2 gwrs golff. Yna beth am daith cwch i Ynys Seiriol? Hyfryd.
Tu allan i'r dref mae gennym ffyrdd rhagorol eraill o fwynhau. Teithiwch ar y ffordd droellog i lawr i'r traeth yn Llanddona sydd wedi ennill gwobrau. Ac mae gan Benmon draeth sydd wedi ennill gwobrau hefyd. A goleudy. A mynachdy canoloesol. A cholomendy a adeiladwyd yn 1600, gyda lle i 1000 o golomennod.
Gallwch ymweld â siambr gladdu neolithig, fel Barclodiad y Gawres. Neu gerdded y llwybr ar hyd yr arfordir. Mae'n mynd yr holl ffordd o gwmpas arfordir Ynys Môn. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o 125 o filltiroedd arfordirol Sir Fôn yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol swyddogol. Ac nid drwy gerdded yn unig y gallwch ei weld.
Gweld map mwy
Gallwch hwylio hefyd. Mae lle da i syrffwyr fwynhau'r tonnau yn Llugwy, neu fynd i syrffio barcud yn Rhosneigr. Cartref pencampwr cenedlaethol 2002 Alex Tritten. Mae'r trigolion eraill sy'n mwynhau ein harfordir gwyllt yn cynnwys adar y pâl, gwylogod, llursod a morfrain. Dyma'r rheswm pam y bu'r artist Charles Tunnicliffe yn treulio bron i 30 o flynyddoedd yma'n tynnu llun y bywyd gwyllt.
Ond mae mwy o atyniadau na byd natur yn unig. Mae gennym ein diwylliant hefyd. Beth am alw i glywed ymarferion côr Cymraeg go iawn? Mae Côr y Traeth sydd wedi ennill yn yr Eisteddfod, yn un o oreuon yr ynys. A gwrandewch i glywed ein hiaith annwyl. Mae 6 allan o bob 10 o bobl sy'n byw ar yr ynys yn Gymry Cymraeg.
A thra y byddwch yma, gwnewch yn siwr eich bod yn astudio ein celf. Mae gan Oriel Ynys Môn yn Llangefni arddangosfa barhaol o waith yr artist o Fôn, y diweddar Sir Kyffin Williams. Ac ym Mhlas Newydd ar lannau'r Afon Menai mae gwaith gan Rex Whistler. Mae ei waith peintio mwyaf i'w gael yma. Yn 58 troedfedd o faint.
Campwaith arall yr Afon Menai yw Pont Menai, pont grog gan Thomas Telford. Cafodd ei chwblhau yn 1826, mae'n 1,000 o droedfeddi ar ei hyd ac mae'n sefyll 100 o droedfeddi uwchben y llanw uchaf. Dyma'r fwyaf o'i math yn y byd ar y pryd. Campwaith go iawn.
Mae gennym weithgareddau rhagorol hefyd. Fel Sioe Amaethyddol Môn ym mis Awst. Cwn adara, gwartheg llaeth, codi waliau cerrig sychion, cneifio defaid. Neu beth am Wyl Gwrw Môn? Cynhelir hon bob mis Medi ac mae'n cynnig gwirodydd a chwrw o Ynys Môn a thu hwnt.
Neu mwynhewch Wyl Wystrys a Physgod Cregyn Môn ym mis Hydref. A dathlwch fel un o'r bobl leol yn Eisteddfod Môn. Mae'n ddathliad enfawr o ddiwylliant a threftadaeth yr ynys.
Mae rhywbeth i'w fwynhau drwy'r amser, beth bynnag yw eich diddordebau. Wedi'r cwbl, mae pobl wedi galw Ynys Môn yn 'Ynys o Ddewisiadau'.
- Bwciwch eich gwyliau ym Miwmares

